Gwasanaeth Peripatetic Cerddorol

O fewn ein cyllideb ysgol mae swm o arian ar gyfer cyflogi athrawon teithiol cerddoriaeth. Rydym fel corff llywodraethol wedi cytuno i brynu’r gwasanaeth cerddoriaeth yma oddi wrth yr Awdurdod Addysg.

Gofynir yn garedig i rieni gyfrannu £30.00 y tymor tuag at gost y gwersi.

Cynigir gwersi offerynnol i ddisgyblion yr Adran Iau e.e. ffidl, chwithbren a gitar.

Caiff y plant gyfle i arddangos eu talentau cerddorol yng ngwasanaeth boreol yr ysgol ynghyd â chyngherddau’r ysgol ac Eisteddfodau’r Urdd.