Ysgol Gynradd Gymunedol Nantgaredig

	
		
	
	
	

CROESO I YSGOL NANTGAREDIG

Mae Ysgol Gymunedol Nantgaredig yn lle hapus. Mae’r athrawon a’r staff cynnal yn gweithio’n ddiflino ac ag arddeliad. Mae ganddynt berthynas dda â’r plant ac ymfalchïwn yn yr addysg eang, gytbwys a llawn a ddarparwn, safonau uchel yr addysg a’r dysgu a’r berthynas effeithiol sydd rhwng yr ysgol a’r cartref, a’r gymuned leol.

Mae’r Gymraeg yn cael lle amlwg ymhob agwedd o fywyd yr ysgol o ran iaith gwersi, iaith anffurfiol cymuned yr ysgol a rhown sylw i ddiwylliant gwerthfawr ein gwlad fel rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol.

Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion ac yn credu y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werthfawr ac yn foddhaus.

‘Mae Ysgol Gynradd Nantgaredig yn ysgol hapus a chartrefol. Mae’r holl staff yn cydweithio’n effeithiol i greu ethos gofalgar, Cymreig a chynhwysol. Mae’r canolfannau dysgu ychwanegol yn rhan annatod o fywyd yr ysgol, gyda’r disgyblion i gyd yn elwa o’r profiadau cyfoethog a ddaw o gydweithio gyda’i gilydd. Mae ymddygiad ac agweddau at ddysgu’r disgyblion yn nodwedd gref o’r ysgol. Mae gan
y disgyblion lais cryf ym mywyd yr ysgol gyda chyfleoedd rheolaidd i holi staff a dylanwadu ar benderfyniadau. Mae llais y dysgwr, sef ‘Nantlais’ yn ffordd effeithiol o gynnwys syniadau disgyblion yn themâu’r ysgol. Maent yn dathlu eu llwyddiannau a’r ffaith fod pawb yn wahanol ac yn bwysig.’
– Adroddiad Estyn Mawrth 2022

Gallwch lawrlwytho llawlyfr yr ysgol o adran ‘Dogfennau’ y wefan. 

Ein nod yw sicrhau bod plant Ysgol Nantgaredig yn ddiogel ac yn hapus er mwyn dysgu.

Gweledigaeth y disgyblion: Dysgu heddiw ar gyfer gwell yfory

Gweledigaeth y Siarter Iaith:

Cadw’r Gymraeg yn fyw

 

            Dogfennau Diogelu Ysgol Nantgaredig yn cynnwys gwybodaeth am Operation Encompass. Ymgyrch Cwmpasu yw’r broses o adrodd yn gynnar wrth ysgolion bod plentyn neu berson ifanc wedi bod yn agored i gam-drin domestig.
     Cliciwch ar y TAB Diogelu i weld y polisîau perthnasol gan gynnwys Diogelu Plant
GWYBODAETH BWYSIG AM DREFNIADAU’R YSGOL (TYMOR YR HYDREF 2023)
Diwrnod HMS nesaf – Dydd Gwener 1.9.23
Gallwch ddarllen adroddiad arolygiad Estyn yr ysgol yn adran ‘dogfennau’ neu ar wefan Estyn
Newidiadau i drefniadau anghenion dysgu ychwanegol i gael gwybodaeth am newidiadau i’r ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol o fis Ionawr 2022, cliciwch ar y tab ADY am ddolenni perthnasol. Gallwch hefyd gyfeirio at ddogfen fanwl am y broses o newid yn yr adran polisïau o dan Dogfennau. Cysylltwch â’r ysgol os hoffech ofyn cwestiwn ynglŷn ag anghenion dysgu ychwanegol.
Diweddariad Cwricwlwm i Gymru – Ionawr 2022 – Rydw i wedi uwchlwytho cyflwyniad i chi am ddatblygiadau diweddaraf Cwricwlwm i Gymru yn Ysgol Nantgaredig yn yr adran CIG. Edrychwn ymlaen i gyfarfod dymhorol yn anffurfiol er mwyn cefnogi’n gilydd i ddeall y newidiadau sydd ar y gweill wrth i ni i baratoi i gyflwyno’r cwricwlwm newydd yn Ysgol Nantgaredig. Bydd y cyfarfod nesaf yn ystod tymor yr hydref. 
Llawrlwythwch Ourschoolsapp ar eich dyfeisiau Android neu Apple a dewiswch gôd post yr ysgol: SA32 7LG i dderbyn diweddariadau a newyddion am ddigwyddiadau yn yr ysgol. Mae adroddiad blynyddol y llywodraethwyr at y rhieni ar gyfer 2021-2022 ar gael yn adran dogfennau y wefan at eich sylw. Gallwch ddarllen yr adroddiad yn y Gymraeg neu’r Saesneg. 
Miss Anwen Evans fydd pennaeth yr ysgol am y flwyddyn academaidd 2023-2024 o ganlyniad i Mr Steffan Griffiths yn gweithio gydag Estyn ar gyfnod o secondiad.
Pennaeth: prif@nantgaredig.ysgolccc.cymru Ffôn: 01267 290444 
Linc i ddyddiadau tymor Sir Gaerfyrddin:
http://www.carmarthenshire.gov.wales/home/residents/education-schools/school-term-dates.aspx#.WXnCLdPyuuU  
Gweler y linc isod ar gyfer trefniadau cofrestru plant i’r ysgol ar wefan Cyngor Sir Gaerfyrddin. Dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau nesaf yw Gorffennaf 31ain 2023 (i gadarnhau).
Cofiwch bod rhaid gwneud cais ar gyfer lle rhan amser a llawn amser ar gyfer eich plentyn.

https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/addysg-ac-ysgolion/derbyn-i-ysgolion-a-newid-ysgol/gwneud-cais-am-le-rhan-amser-mewn-meithrinfa-3-oed/#.Yuzf_3bMI2w