CROESO I YSGOL NANTGAREDIG
Mae Ysgol Gymunedol Nantgaredig yn lle hapus. Mae’r athrawon a’r staff cynnal yn gweithio’n ddiflino ac ag arddeliad. Mae ganddynt berthynas dda â’r plant ac ymfalchïwn yn yr addysg eang, gytbwys a llawn a ddarparwn, safonau uchel yr addysg a’r dysgu a’r berthynas effeithiol sydd rhwng yr ysgol a’r cartref, a’r gymuned leol.
Mae’r Gymraeg yn cael lle amlwg ymhob agwedd o fywyd yr ysgol o ran iaith gwersi, iaith anffurfiol cymuned yr ysgol a rhown sylw i ddiwylliant gwerthfawr ein gwlad fel rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol.
Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion ac yn credu y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werthfawr ac yn foddhaus.
Gallwch lawrlwytho llawlyfr yr ysgol o adran 'Dogfennau' y wefan.
Ein nod yw sicrhau bod plant Ysgol Nantgaredig yn ddiogel ac yn hapus er mwyn dysgu.
Gweledigaeth y disgyblion: Dysgu heddiw ar gyfer gwell yfory
Gweledigaeth y Siarter Iaith:
Cadw'r Gymraeg yn fyw
Dogfennau Diogelu Ysgol Nantgaredig |
Cliciwch ar y TAB Diogelu i weld y polisîau perthnasol |
Gwybodaeth bwysig am drefniadau'r ysgol (Hydref 2020) |
Mae Ysgol Nantgaredig ar gau i fwyafrif y disgyblion ar hyn o bryd o achos cyfnod clo Covid-19. Os ydych yn dymuno darganfod y newyddion diweddaraf am ail agor yr ysgol, llawrlwythwch app "Ourschoolsapp" ar declynnau Apple neu Android a mewnbynnwch enw/côd post yr ysgol. Mae croeso i chi i gysylltu gyda'r pennaeth trwy'r ebost isod neu ffonio'r ysgol am fanylion pellach. Mae adroddiad blynyddol y llywodraethwyr at y rhieni ar gyfer 2019-2020 ar gael yn adran dogfennau y wefan at eich sylw. Gallwch ddarllen yr adroddiad yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Pennaeth: steffan.griffiths@nantgaredig.ysgolccc.cymru Ffôn: 01267 290444 |
Linc i ddyddiadau tymor Sir Gaerfyrddin: http://www.carmarthenshire.gov.wales/home/residents/education-schools/school-term-dates.aspx#.WXnCLdPyuuU
|
Gweler y linc isod ar gyfer trefniadau cofrestru plant i'r ysgol ar wefan Cyngor Sir Gaerfyrddin. Dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau nesaf yw Ionawr 31ain 2022. http://www.sirgar.llyw.cymru/derbyniadauysgol
|